6th February 2025

Cefnogi BBaChau i gyflymu cynhyrchiant a thwf

This page is also available in English

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Dydd Iau 6 Chwefror 2025 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Caerdydd, CF5 2YB

I ddathlu ein deng-mlynedd, ymunwch â ni ar gyfer dderbyniad hwyrol unigryw a gynhelir gan aelodau Siarter y Busnesau Bach yn Ysgol Reolaeth Caerdydd ar 6 Chwefror.

Yn y digwyddiad hwn, bydd panel o arweinwyr busnes nodedig yn trafod rhai o'r heriau sy'n unigryw i economi Cymru a'r cymorth sydd ei angen ar fusnesau bach a chanolig heddiw ac, yn y dyfodol, i'w helpu i gyflymu cynhyrchiant a thwf.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells MS, yn ymuno â ni fel prif siaradwr ar y noson.

Byddwn hefyd yn clywed mewnwelediadau gan arweinwyr busnes sy'n gweithio gyda'n haelodau achrededig SBC yng Nghymru.

Am y 10 mlynedd diwethaf, mae’r Siarter Busnesau Bach, ei hysgolion busnes achrededig a’n rhaglenni fel Helpu i Dyfu: Rheolaeth wedi chwarae rhan hanfodol wrth feithrin economïau lleol bywiog a deinamig.

Mae hwn yn gyfle gwych i gysylltu ag arweinwyr meddwl, dylanwadwyr busnes, ac ysgolion busnes arbenigol, a gweld sut y gallwn barhau i gefnogi ein busnesau bach bywiog.

Upcoming events

February 6th, 2025

Empowering Small Business Success: Wales

Cardiff

November 27th, 2024

Empowering Small Business Success: A Lord David Young Talk

Milton Keynes (UK)